Numbers 18

Cyfrifoldebau Offeiriaid a Lefiaid

1A dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Aaron: “Ti a dy feibion a dy berthnasau o lwyth Lefi sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud yn y cysegr. Ond ti a dy feibion sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud gan yr offeiriaid. 2Gad i dy berthnasau, o lwyth Lefi, dy helpu di a dy feibion wrth i chi gyflawni eich gwaith o flaen pabell y dystiolaeth. 3Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am y Tabernacl. Ond rhaid iddyn nhw beidio mynd yn agos at unrhyw offer cysegredig na'r allor, neu byddan nhw a chi yn marw. 4Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am Babell Presenoldeb Duw, ac i wneud eich gwaith yn y Tabernacl. Ond does neb o'r tu allan i gael dod yn agos. 5Chi fydd yn gyfrifol am y cysegr a'r allor, fel bod yr Arglwydd ddim yn gwylltio hefo pobl Israel eto. 6Fi sydd wedi dewis dy berthnasau di o lwyth Lefi i wneud y gwaith yma. Mae'n nhw'n anrheg i ti gan yr Arglwydd, i weithio yn y Tabernacl. 7Ond ti a dy feibion sy'n gyfrifol am wneud gwaith yr offeiriaid – popeth sy'n ymwneud â'r allor a'r tu mewn i'r llen. Mae'r fraint o gael gwneud gwaith offeiriad yn anrheg gen i i chi. Os bydd unrhyw un arall yn dod yn rhy agos, y gosb fydd marwolaeth.”

Siâr yr Offeiriaid

8Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Aaron, “Ti a dy feibion sydd i fod yn gyfrifol bob amser am yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dw i'n rhoi dy siâr di o offrymau pobl Israel i ti a dy feibion. 9Byddi di'n cael y rhannau hynny o'r offrymau sydd ddim yn cael eu llosgi – eu hoffrymau nhw o rawn a'r offrwm puro a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r rhain i gael eu rhoi o'r neilltu i ti a dy feibion. 10Mae i'w fwyta fel offrwm cysegredig gan y dynion. Mae wedi ei gysegru i chi ei fwyta. 11Chi sydd i gael yr offrwm sy'n cael ei chwifio hefyd. Mae hwn bob amser i gael ei fwyta gan y teulu i gyd, yn ddynion a merched. Mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael ei fwyta. 12A dw i'n rhoi eu rhoddion nhw o ffrwyth cyntaf y cnydau i chi hefyd – yr olew olewydd gorau, y sudd grawnwin gorau a'r gorau o'r grawn. 13A'r ffrwythau aeddfed cyntaf maen nhw'n eu cyflwyno i'r Arglwydd – chi piau nhw, ac mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael eu bwyta. 14Chi sy'n cael popeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel. 15Chi piau'r meibion hynaf a phob anifail cyntaf i gael eu geni, sef y rhai sy'n cael eu cyflwyno i'r Arglwydd. Ond rhaid i'r meibion hynaf a'r anifeiliaid cyntaf gael eu prynu'n ôl gynnoch chi. 16Maen nhw i gael eu prynu pan maen nhw'n fis oed, am bum darn arian (yn ôl mesur safonol y cysegr – sef dau ddeg gera). 17Ond dydy'r anifail cyntaf i gael ei eni i fuwch neu ddafad neu afr ddim i gael eu prynu yn ôl. Maen nhw wedi eu cysegru i gael eu haberthu. Rhaid i'w gwaed gael ei sblasio ar yr allor, a rhaid i'r brasder gael ei losgi yn offrwm – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r Arglwydd. 18Ond chi sy'n cael y cig, fel dych chi'n cael cadw brest a rhan uchaf coes ôl yr offrymau sy'n cael eu chwifio. 19Dw i'n rhoi'r rhain i gyd i chi a'ch teulu – yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno gan bobl Israel i'r Arglwydd. Chi fydd piau'r rhain bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad dw i, yr Arglwydd, yn ei wneud i chi a'ch disgynyddion. Fydd hyn byth yn newid.
18:19 Fydd hyn … newid Hebraeg, “drwy ymrwymiad halen” gw. hefyd Lefiticus 2:13, 2 Cronicl 13:5

20Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Aaron, “Fyddwch chi'r offeiriaid ddim yn cael tir i chi'ch hunain yn y wlad. Fi ydy'ch siâr chi. 21A siâr y Lefiaid fydd y deg y cant fydd pobl Israel yn ei dalu – dyma'r tâl fyddan nhw'n ei gael am eu gwaith yn y Tabernacl. 22O hyn ymlaen bydd rhaid i weddill pobl Israel gadw draw oddi wrth y Tabernacl, neu byddan nhw'n euog o bechu a bydd rhaid iddyn nhw farw. 23Y Lefiaid sy'n cael gweithio yn y Tabernacl, a nhw fydd yn gyfrifol os gwnân nhw rywbeth o'i le. Dydy'r Lefiaid ddim i gael tir yn y wlad iddyn nhw eu hunain. Fydd y rheol yma byth yn newid. 24Mae'r Lefiaid i gael y degymau fydd pobl Israel yn eu cyflwyno yn offrwm i'r Arglwydd. Dyna pam dw i'n dweud nad ydyn nhw i gael tir iddyn nhw eu hunain.”

Degwm y Lefiaid

25Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses: 26“Dywed wrth y Lefiaid, ‘Pan fyddwch chi'n derbyn y degwm dw i wedi ei roi i chi gan bobl Israel, dych chi i gyflwyno un rhan o ddeg ohono yn offrwm i'r Arglwydd. 27A bydd yr offrwm yma dych chi'n ei gyflwyno yn cael ei gyfri fel petai'n rawn o'r llawr dyrnu neu'n win o'r gwinwasg. 28Rhaid i chi gyflwyno i'r Arglwydd un rhan o ddeg o'r degwm dych chi'n ei dderbyn gan bobl Israel. Mae'r siâr yma i gael ei roi i Aaron yr offeiriad. 29Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi siâr o bopeth dych chi'n ei dderbyn i'r Arglwydd, ac mai hwnnw ydy'r darn gorau ohono.’

30“Dywed wrthyn nhw, ‘Pan fyddwch chi'n cyflwyno'r gorau o'r degwm i'r Arglwydd, bydd yn cael ei gyfri fel petai'n rawn o'r llawr dyrnu neu'n win o'r gwinwasg. 31Gewch chi a'ch teulu fwyta'r gweddill ohono unrhyw bryd unrhyw le – eich cyflog chi am eich gwaith yn y Tabernacl ydy e. 32Os gwnewch chi gyflwyno'r gorau ohono i Dduw, fyddwch chi ddim yn euog o bechu trwy ddangos diffyg parch at offrymau pobl Israel, a fydd dim rhaid i chi farw.’”

Copyright information for CYM